Lleoliad:
Fideo Gynadleddfa dros Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 29 Mehefin 2023
Amser:
09.30 -
11.16
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13360
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS |
|
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Haidee James (Ail Glerc) Rhea James (Dirprwy Glerc) Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Sara Moran (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.4.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru.
9.1 The Committee received a briefing on the Council of Europe Convention on an Integrated Safety, Security and Service Approach at Football Matches and Other Sports Events.
4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno gyda gwelliannau.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i adolygu’r adroddiad diwygiedig, a chytuno ar yr adroddiad terfynol, yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 14 Gorffennaf 2023.
5.1 Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am broses yr ymchwiliad.
6.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar y Gallu i Ddatganoli yn Whitehall.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer hydref 2023, a chytunodd y byddai'n ei thrafod ymhellach yn y cyfarfod ar 12 Gorffennaf 2023.
8.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio ar y Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2).
9.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Ddull Integredig o ran Diogeledd, Diogelwch a Gwasanaethau mewn Gemau Pêl-droed a Digwyddiadau Chwaraeon Eraill.
10.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 9) 2023.